llythyrau at y golygydd

Diddorol oedd darllen am hanes ddau neu dri digwyddiad yn Rhifyn Haf y Gwenynwr eleni- 2017.  Gyda llaw, mae gwedd, os nad cynnwys y cylchgrawn yn mynd yn fwy deniadol, o bryd i’w gilydd, yn nwylo pob Golygydd. Dylem fel Cymdeithas Gymreig ymfalchïo yn hyn oherwydd mae ein cylchgrawn yn cymharu’n ffafriol, os nad gwell, na’r un o’u fath yn y DU., er bod un o’r rhain wedi ennill gwobr ryngwladol am ei wedd a’i gynnwys ac yn dal i’w hunan ganmol ei hun am hynny.

0nd ymlaen.  Roedd yr erthygl am y dull a’r modd i waredu brenhines anystywell a chas wedi tynnu fy sylw at y nifer o weithiau y gofynnir i mi, ac i eraill gan ddysgwyr neu wenynwyr dibrofiad, am y rheswm fod eu gwenyn wedi troi’n gas er eu bod o anian ddigon tawel pan gawsant hwy gyntaf. Nid yn aml mae gwenyn o’u deor o’r un frenhines yn newid eu tymer onid oes yna resymau pendant dros hynny. Ar gais nifer y gwenynwyr dibrofiad hynny rwy’n barod, o fewn trefn ac amser, i fynd i drafod eu gwenyn am y tro, yn bennaf o ran rhyw gred neu ddogma chwilfrydol ynof fi, ac nid o ran unrhyw ddawn sydd gennyf. Rwy’n digwydd credu mai ychydig iawn o wenyn gwir wreiddiol gas sydd, rhyw achosion allanol sy’n eu gwneud felly.

Yn aml wrth ddechrau trafod gwenyn, yn ddi-fenyg, datgenir syndod gan y dysgwyr neu’r dibrofiad fod eu gwenyn heb ddangos eu hatgasedd arferol ataf fi. Syndod mawr iddynt, bron yn ddieithriad, yw gweld eu  gwenyn yn trafod yn ddigon naturiol. Mae yna wers i’w dysgu wrth drafod gwenyn yn ddi-fenyg a dylai pob gwenynwr, o bryd i’w gilydd, drafod felly  – y wers yw, os yw’r trafod yn iawn anaml y ceir brathu ond os mai fel arall y mae yna mae rhywbeth o’i le ar y trafod – fydd y gwenyn fawr o dro cyn dysgu gwers i’r gwenynwr mwyaf profiadol, menig neu beidio!  Un o’r gwendidau pennaf yw agor y cwch cyn i’r mwg wneud ei waith, rhaid aros cyn agor y cwch am dair pedair munud ar ôl y mygu cyntaf.  Bryd arall mae’r trafod yn rhy wyllt a diamynedd gan chwifio’r breichiau a’r dwylo uwchben cwch agored sy’n gwneud i’r gwenyn hedfan yn ymosodol at y symudiadau hynny. Nid yw’r gwisgoedd a wisgir heddiw chwaith yn fanteisiol i drafod pwyllog synhwyrol. Maent wedi eu gwneud yn y fath fodd fel ei bod bron yn amhosibl i neb gael ei frathu, gyda’r trafod ‘ffwrdd a hi’ yn y gwisgoedd hyn, sydd yn aml yn cythruddo’r gwenyn. Mae rhesymau fel yna yn aml yn creu gwenyn cas; nid felly oedd hi gan rai gwenynwyr a adnabyddais ‘slawer dydd mewn penrwyd a llewys crys yn unig. Pwyll pia hi!

Ond yn ôl at y gwenyn sy’n trafod yn ddigon diddrwg. Caiff y dysgwr neu’r dibrofiad wneud y trafod ar ôl y ffrâm neu ddwy gyntaf a hyn fydd yn peri iddo synnu at rwyddineb y trafod heb ddangos yr atgasedd arferol tuag ato. Dewiniaeth oddi wrth y profiadol…na! Dwy’n pwysleisio eto nad oes gen i na unrhyw wenynwr profiadol arall unrhyw allu dewinol i gyflwyno i’r dysgwr sut mae tawelu natur gas y gwenyn. Ond y mae, i’m tyb i, reswm.

Hynny yw, naws ac arogl fferamon – y rhin (rhinwedd/aura) o arogl y mae dyn ac anifail yn ei gynhyrchu mewn sefyllfaoedd arbennig. ( Mae rhai arbenigwyr yn credu mai’r rhin yma, y fferamon, sy’n tynnu cariadon at ei gilydd yn amgenach na phryd a gwedd – nid BO sy’n gweithredu yma!)  Mae pob dysgwr neu wenynwr dibrofiad yn teimlo rhyw gymaint o ofn wrth drafod gwenyn y troeon cyntaf ac mae’r rhin ac arogl (fferamon) o ofn y mae yn ei gynhyrchu yn peri casineb yn y gwenyn ac felly yn eu gwneud yn gas ac anodd eu trafod

Ond beth yw’r rheswm nad  oes yna atgasedd at y dysgwr pan mae e yn trafod y rhost o’r cwch?  Mae’r rhin neu’r fferamon, neu’r arogl o ofn, wedi gwanhau bellach yng nghyfansoddiad y dysgwr neu’r dibrofiad gan fod yna wenynwr profiadol wrth ei ochr ac yn ei wneud yn fwy hyderus. Hunanhyder a phwyll yn ogystal â dysgu’r grefft yw  cynhysgaeth bennaf pob gwenynwr.

Diddorol hefyd oedd darllen saga Wally Shaw a’r frenhines strae yn yr un rhifyn. Cefais innau brofiad tebyg yn y gwanwyn – profiad na chefais ac na chlywais amdano mewn trigain mlynedd o wenyna. Rwyf wedi cael droeon stoc yn gwbl amddifad o wyau a mâg (brood)- heb obaith o fagu brenhines – ond eto i gyd darganfod ymhen dyddiau, a chyn bod rhai gweithwyr wedi dechrau dodwy, un neu ddwy gell brenhines na wn i ddim o ble y daethant. A ddaethpwyd o hyd i wy neu ddau mewn rhyw gornel dirgel neu a fu dwyn wyau o gwch arall? Mae’n rhyfedd fel y medr wyau ddal yn ffrwythlon er eu gadael mewn rhyw gornel pell yn y cwch neu hyd yn oed allan yn yr awyr agored. Cofiaf, mewn esgeulustod, adael ffrâm gyfan allan o gwch ganol haf am ddiwrnod cyfan a thros nos ac o’i rhoi yn ôl ddarganfod i bob wy ddatblygu’n naturiol.

Y stori sydd gennyf yw hon. Fe gollais y gaeaf diwethaf, yn y gwanwyn cynnar a dweud y gwir, saith stoc o wenyn allan o naw trwy ddiffyg yn y frenhines, rhywbeth sydd mor gyffredin y dyddiau hyn. Yn ogystal â’r ddau gwch oedd yn fyw roedd un cnewyllyn (newc) wedi goroesi ond yn eithriadol o wan.  Wedi ychwanegu gwenyn i’w chryfhau ac yn ddiweddarach ychydig fag – rhaid gwneud hyn yn y drefn hon, neu o roi mag yn gyntaf ni fydd digon o wenyn ar gael i’w gadw’n  gynnes, cafwyd ychydig lwyddiant,  Rhaid cofio hefyd ei symud o’r wenynfa i le dieithr rhag colli’r gwenyn sydd yn hedfan. Yn y modd yma fe lwyddwyd i’w gynnal a’i gryfhau er mai’r rheswm dros wendid gwreiddiol y cnewyllyn oedd brenhines ifanc wallus a di-batrwm ei dodwy.

Tua chanol Mai, ar dywydd da, roedd un o’r ddwy stoc a ddaeth trwy’r gaeaf  ar heidio a gwelais gyfle i roi brenhines y stoc yma, oedd wedi ei marcio’n goch, i’r cnewllyn ar ôl lladd y frenhines. Fe fydda i’n marcio’r brenhinesau yn goch neu yn wyn bob amser ac nid yn ôl y lliwiau blynyddol gan mai anaml, os byth, y ceir paill o’r lliwiau yma i ddenu’r llygad wrth chwilio am frenhines. Gadewais ddwy gell ar ôl yn y stoc wreiddiol fel y medrai’r gwenyn fagu ei brenhines eu hunain.  Fe fyddaf yn gadael dwy gell ar ôl bob amser rhag ofn yr aiff rhywbeth o’i le (a bu hyn yn fendith y tro hwn fel y sonnir yn nes ymlaen) fel dyn yn gwisgo belt a galws, hyd y gwn ni fu i’r un stoc heidio o achos hyn.

Aeth tua phythefnos heibio cyn agor y cnewyllyn i weld a oedd y ‘frenhines goch’ wedi ei derbyn. Mae cywreinrwydd yn aml yn peri i wenynwr agor cwch sydd wedi cael brenhines newydd yn rhy fuan er niwed a hyd yn oed colli brenhines.  Y tro yma doedd y ‘frenhines goch’ ddim wedi ei derbyn, am ryw reswm neu'i gilydd, a’r cnewyllyn bellach heb obaith magu brenhines.

Aeth nifer o ddyddiau heibio cyn cael y cyfle i ail-frenhinesu’r cwch. Daeth y cyfle hwnnw trwy cael ffrâm yn cynnwys nifer o gelloedd brenhinesau gan gymydog o wenynwr a’i dwyn adref yn gynnes a gofalus. Ond wrth dynnu allan ffrâm o’r cnewllyn er mwyn rhoi lle i ffrâm y celloedd sylwais fod y ffrâm honno yn llawn mâg ac wyau a brenhines newydd yn cerdded yn urddasol drosti

O ble y daeth y frenhines honno – roedd yn edrych yn ifanc ac yn heini? Croesodd rhywbeth fy meddwl…na…amhosibl…ond tybed? A oedd gwyryf cwch y ’frenhines goch’ wreiddiol wedi mynd i mewn i’r cnewyllyn wrth ddychwelyd o’i theithiau ffrwythloni yn enwedig o nodi mai hwn oedd y cwch ar ben y rhes?

Euthum ar unwaith i archwilio’r cwch hwnnw gan ddisgwyl, a oedd yr hyn a dybiwn yn wir, ei gael yn ddi-frenhines, ond yno eto roedd brenhines ifanc yn rhodio dros y fframiau mewn sbri o ddodwy!

Beth yw’r esboniad? Yr unig beth y medraf feddwl amdano yw bod y ddwy gell a adwyd ar ôl yn y stoc wreiddiol wedi deor ac un heb ladd y llall. Ydi hyn yn bosibl? Y ddwy wedi hedfan i gael eu ffrwythloni, un wedi dychwelyd i’w chartref gwreiddiol a’r llall, efallai er mwyn peidio wynebu brwydr gyda’i chwaer, wedi mynd i mewn, a chael ei derbyn gan y cnewyllyn oedd yn ddi-frenhines.

Pwy sy‘n meiddio datgan ei fod yn gwybod holl gyfrinachau byd y cwch gwenyn!

Wil Griffiths