Y Gwenynydd

CYFLWYNIAD.

Y Gwenynydd yw’r llyfr cyntaf, yn ôl y ddau awdur, a gyhoeddwyd i drafod gwenyn a gwenyna trwy gyfrwng y Gymraeg. Cyhoeddwyd yn Y Bala yn 1888 gan H.P.Jones a Michael D. Jones. Mae’r enw’r olaf yn gyfarwydd iawn yng Nghymru hyd yn oed heddiw oherwydd dyma’r gŵr a fu flaenaf yn sefydlu’r Wladfa ym Mhatagonia yn 1865. Roedd hefyd yn brifathro Coleg y Bala, sefydliad pwysig yng Nghymru yn ystod y cyfnod. Gŵr blaenllaw fel cenedlaetholwr Cymreig a phwy a wŷr nad ei ysbryd gwladgarol a welodd yr angen am lyfr o’r math yn Gymraeg er dyrchafu’r iaith ac ”er lles fy nghyd wladwyr.”

Cyflwynwyd y llyfr gan yr awduron i Mrs Evelyn Price, Plas y Rhiwlas, teulu adnabyddus fel tirfeddiannwyr yn y cylch. Efallai fod gan y teulu hwn gyfraniad mewn rhyw fodd yn y cyhoeddiad oherwydd mawr yw’r clod a’r parch a roir iddynt am “ei nawdd a’i help i bob ymdrech er gwella  cyflwr y tlodion, a dyrchafu dynion diwyd o bob gradd.”

Mae’n anodd dweud yn iawn pwy oedd y prif awdur er yn sicr mai Michael D. Jones a gafodd y clod mwyaf am y cyhoeddiad oherwydd roedd ef yn ffigwr cenedlaethol a’r llall, yn ôl a wyddom, yn gwbl ddi-nod. Ond na fydded i’r ddinodedd hwn fychanu cyfraniad Huw Puw Jones. Yn ôl hen draddodiad ac ambell gyfeiriad rhwng llinellau, ’doedd Michael D. Jones ddim yn wenynwr; ysgrifennu yn unig oedd ei gamp yn y llyfr yma ar ôl derbyn y wybodaeth wenynnol oddi wrth ei gyd awdur. Meddai, “ Ffrwyth gwybodaeth brofiadol a darllenol Mr. Hugh Puw Jones yw y traethawd yma ar wenyn a minnau sydd yn gyfrifol am y wisg, neu’r iaith.” Eto y mae’n dweud, “Anogais ef i gyhoeddi llyfr ar y gwenyn gan nad oedd gennym un yn y Gymraeg ar hyn y cydsyniodd, ond i mi ei gynorthwyo.”

Yn sicr ni chafodd H.P.Jones y clod a haeddai. Pan sonnir mewn trafodaeth ymysg gwenynwyr Cymraeg am y llyfr cyfeirir ato, bron yn ddieithriad, fel llyfr Michael D. Jones heb unrhyw sôn am y cyd-awdur. Go brin y disgwylid i unrhyw werinwr cyffredin, yng nghyfnod Mari Jones cofier, gan mai canran fechan oedd gyda’r gallu i ddarllen dim ond y rhannau mwyaf cyfarwydd yn eu Beiblau i fod yn rhugl ddarllenwyr – ond nid felly H.P.Jones.  Medrai’r gŵr hwn, gwerinwr, mewn ardal wledig ddiarffordd fel Dinas Mawddwy ddarllen, ac yn amlwg yn rhugl, y Gymraeg a’r Saesneg, rhywbeth go anghyffredin yn y cyfnod a’r man hwn. Roedd yn gyfarwydd â’r syniadau, y gweithgarwch, a’r dulliau mwyaf modern ym myd y gwenyn a oedd yn cael eu cyflwyno i wenynwyr yn Lloegr ac hyd yn oed yn rhannau o Europ ac America. Roedd ysgrifau a llyfrau Cowen, gŵr amlwg  yn y cyfnod yma ym myd gwenyna, gyda chystylltiadau â’r America, yn gyfarwydd iddo yn ogystal a gwŷr eraill â’u bryd ar “Encouragement, Improvement and Advancement of Bee Culture in the United Kingdom.” Na, nid gwenynwr syml oedd Hugh Puw Jones er lleied y clod a gafodd yn ei gyfnod.  

Roedd cyhoeddi ‘Y Gwenynydd,’ llyfr prin iawn erbyn heddiw, yn gam blaenllaw iawn ym myd gwenyna yng Nghymru a chlywir hyd yn oed heddiw am wenynwyr yn prisio’i werth a’i wybodaeth. Roedd aros tan 1888 yn gyfnod hir cyn cael arweiniad ysgrifenedig i’r grefft. Mae hyn yn gryn syndod o gofio fod lle i wenyn ac yn enwedi perchnogaeth haid o wenyn yn cael lle amlwg yng nghyfreithiau Hywel Dda yn ystod y nawfed ganrif. Efallai mae’r rheswm am hynny oedd mai gweithgarwch gwerinol yng Nghymru oedd cadw gwenyn er fod bee bols, sef manau i gadw cychod gwenyn gwellt yn sych a diogel i’w cael yng ngerddi nifer o blasau ond eto y garddwr cyffredin di-addysg oedd yn gyfrifiol am ddwyn y mêl i fwrdd y sgweir.

 Roedd y cyhoeddiad hwn yn digwydd bod ar drothwy cyfnod newydd ym myd cadw gwenyn. Roedd yr hen sgep, y cwch gwenyn a blethid o wellt gyda’i grwybr sefydlog yn araf rhoi ei le i’r cwch modern o bren gyda’i ystramiau (fframiau i ni heddiw) symudol. Ceisiwyd cynnwys hyn yn y llyfr a throsglwyddo gwybodaeth a dulliau ymarferol y ddau gyfrwng. O ddarllen y llyfr heddiw mae un peth yn amlwg iawn sef, er ei fod yn gant a hanner oed, eto i gyd mae’n dal yn fodern iawn wrth drafod dulliau a chrefft y “dull newydd,” hyd yn oed yr un mor fodern a rhai llyfrau, digon diafael, a gyhoeddir heddiw, Mae’r darluniau, wrth gwrs yn hen ffasiwn a’r eirfa hefyd felly er fod rhai o’r geiriau yn dal mewn defnydd heddiw. Nid mater bach oedd bathu geirfa ar gyfer maes newydd; ar y cyfan mae’r darllen yn syml ac yn rhwydd. Mae’n rhaid cyfaddef fod y darllen lawer yn fwy rhugl a slic na’r hyn a geir gan eirwyr a chyfieithwyr Llywodraeth Cymru heddiw yn y pamffledi a gyhoedda ar gadw gwenyn.

Yn y bennod ar blanhigion sy’n cynhyrchu neithdar dan y penawd “Ymborth Gwenyn” mae lle amlwg a chlod mawr yn cael ei roi i’r feillionen wen gan sôn am y ffrwd o neithdar a ddaw ohoni, yn wir, mae’n sicr mai y rhain sydd yn cynyrchu’r mêl gorau. Erbyn heddiw prin ac anwadal yw’r ffrwd o neithdar o’r blodyn hwn. Tybed a yw gwyddonwyr cynnyrch y maes a’r ffridd ein hoes fodern wedi datblygu cymaint ar borfeydd a phlanhigion fel y feillionen fel nad ydynt bellach yn cael eu cyfrif fel prif lif neithdar ein gwenyn?

Diddorol yw’r gymhariaeth rhwng y cyfnod yma a’n cyfnod ni heddiw. Mae newid mawr wedi bod ac o ddewis mae’n siwr gen i y byddai’n well gan lawer gwenynwr gadw gwenyn yng nghyfnod y llyfr hwn na heddiw. Cyfnod gydag amser i wir gadw gwenyn, ffrwd o neithdar ar dywydd ffafriol, ac heb na haint nac angen meddygyniaeth, – mor belled ag y caem ddefnyddio ein hoffer modern hwylus heddiw.

Hydref 2017                                                                 Wil Griffiths, Comins Coch.