Cylchwyl 75 Rhaglen

ynhadledd 75fed Pen-blwydd CGC
Prifysgol Aberystwyth
13eg i 15 Gorffennaf, 2018

Diwrnod

Siardwr

Teitl y Sgwrs

Crynodeb o'r Sgwrs

Dydd Gwener

Yr Athro Tom Seeley

Sut mae haid o wenyn mêl yn dewis safle ei gartref newydd

Mae'r gwenyn mewn haid yn dewis safle eu cartref newydd gyda'i gilydd ac yn ddemocrataidd.  Maen nhw'n mentro eu dyfodol ar broses sy'n cynnwys dod o hyd i ffeithiau, trafod brwd, a dod i gyfaddawd ar y cyd.  Byddwn ni'n edrych ar sut mae'r gwenyn hyn yn tafoli darpar safleoedd nythod, yn rhoi gwybod i'w gilydd am eu darganfyddiadau, yn ystyried yn agored, ac yn dewis eu cartref newydd.

 

Dydd Gwener

Yr Athro Francis Ratnieks

Cynllun Sussex ar gyfer Iechyd a Lles Gwenyn Mêl

Defnyddio ymchwil i helpu gwenyn a gwenyna. Rheoli varroa a firws adenydd wedi'u hanffurfio gydag asid ocsalig ac ymddygiad hylan.

 

Gweith-

dy

Uned Wenyn Genedlaethol (NBU) – Clefydau

 

 

Dydd Sadwrn

Yr Athro Tom Seeley

Cytref gwenyn fel ffatri fêl

Byddwn ni'n edrych ar sut mae cytref o wenyn yn gweithredu fel ffatri sy'n cynhyrchu mêl yn effeithiol er bod y cyflenwad o neithdar, sef y deunydd crai i wneud mêl, yn amrywio'n fawr o ddydd i ddydd.  Nodwedd bwysig ar drefnu'r broses cynhyrchu mêl yw sut caiff llafur ei rannu rhwng y casglwyr neithdar, gweithwyr oedrannus sy'n gweithio'r tu allan i'r cwch yn casglu'r neithdar, a'r derbynwyr neithdar, gweithwyr canol oed sy'n llafurio yn y cwch yn troi'r neithdar yn fêl.   Byddwn ni'n gweld sut gall y gwenyn wneud i'w cytref gasglu neithdar yn gyflymach yn ystod llif mêl, gan ddefnyddio'r ddawns ysgwyd a'r arwydd siglo.  A byddwn ni'n gweld sut gall y gwenyn wneud i'w cytref brosesu neithdar yn gyflymach – er mwyn cael cydbwysedd rhwng y gyfradd casglu neithdar a phrosesu neithdar – drwy'r ddawns grynu a'r arwydd stop. 

 

Dydd Sadwrn

Yr Athro Robert Pickard

Pethau Rhyfeddol am Wenyn

Mae'r sgwrs hon yn edrych ar esblygiad gwenyn mêl a'r effaith y maen nhw wedi'i chael ar gymaint o rywogaethau eraill. Mae cyfeiriadau at ddynwarededd, pathogenau, ysglyfaethwyr, paill a magu breninesau.  Codir enghreifftiau o wenyna da, fel defnyddio dadleoli a'r ffordd ddiogel o fwydo gwenyn, o nifer o wahanol wledydd. Thema gyson yw’r graddau y gall pobl ddysgu o astudio gwenyn, yn enwedig am esblygiad cymdeithasol a rheoli ein byd.

 

Dydd Sadwrn

Yr Athro Francis Ratnieks

Cynllun Sussex ar gyfer Iechyd a Lles Gwenyn Mêl

Defnyddio ymchwil i helpu gwenyn a gwenyna. Penderfynu ar y planhigion gardd gorau i wenyn.

 

 

Dydd Sadwrn

Yr Athro Tom Seeley

 

Gwenyn mêl Coedwig Arnot: Poblogaeth o gytrefi gwenyn mêl Ewropeaidd gwyllt sydd wedi goroesi

Fel arfer mae'r gwiddonyn ectoparasitig, Varroa destructor, a'r firysau y mae'n eu trosglwyddo, yn lladd y cytrefi o wenyn mêl Ewropeaidd sy'n cael eu cadw gan wenynwyr oni bai eu bod nhw'n cael eu trin gan widdonladdwyr.  Serch hynny, yn Ewrop ac yng Ngogledd America, mae poblogaethau o gytrefi gwenyn mêl gwyllt sy'n berwi o Varroa ac nad ydyn nhw'n cael eu trin gan widdonladdwyr.  Byddwn ni'n adolygu canlyniadau astudiaethau genetig un boblogaeth o gytrefi gwyllt yn Nhalaith Efrog Newydd sydd wedi datgelu sut mae'r gwenyn wedi newid yn enetig dros yr 20 mlynedd diwethaf, siŵr o dof oherwydd dethol naturiol am ymwrthedd i Varroa.   Hefyd, byddwn yn adolygu canlyniadau astudiaethau genetig o ffactorau heb fod yn rhai genetig (nythod bach, heidio rheolaidd, ac ati) sydd hefyd yn helpu'r cytrefi gwyllt hyn i oroesi heb gael eu trin gan widdonladdwyr.  Byddwn yn cloi drwy ystyried pa wersi am wenyna y gallwn eu dysgu gan y gwenyn mêl hyn sy'n byw yn y gwyllt.

 

Dydd Sadwrn

Dr Mairi Knight

Gwenyn mêl tywyll cynhenid y DU: nodweddion addasu, arwyddion genetig, a blaenoriaethau ar gyfer cadwraeth

Mae llawer o dystiolaeth anecdotaidd fod nodweddion ein gwenyn mêl tywyll cynhenid yn hollol wahanol ac ‘wedi'u haddasu'n lleol’ o'u cymharu ag isrywogaethau eraill sydd wedi'u mewnforio. Fodd bynnag, does gennym ni ddim data empirig caled i gefnogi neu i wrthod hyn. Heb y math hwn o dystiolaeth mae'n anodd cynnig achos hollol gadarn dros gadwraeth isrywogaethau cynhenid a chamau gweithredu cysylltiedig, fel rheoli mewnforio.

Nod ein prosiect yw casglu data gyda chymorth gwenynwyr ynghylch nodweddion cychod, ac edrych a yw'r nodweddion hynny'n mapio'n uniongyrchol i amrywiaeth enetig a hunaniaeth dacsonomaidd.

Mae'r prosiect hwn yn dibynnu'n llwyr ar bartneriaeth weithio lwyddiannus rhwng gwenynwyr ac ymchwilwyr academaidd, felly wrth inni wthio'r cwch i'r dŵr gyda'r prosiect, byddai croeso arbennig i drafodaeth â gwenynwyr eu hunain ac i'w cyfraniad.

Dydd Sadwrn

Mike Brown

Yr Uned Wenyn Genedlaethol: 30 mlynedd o esblygiad.

Sgwrs i ddangos y cynnydd yr ydym wedi'i wneud a sut rydym wedi mabwysiadu technolegau newydd ar gyfer diagnosteg, sut rydym wedi gwneud defnydd da o fodelu a mapio er mwyn gwella ac atgyfnerthu'r rhaglen archwilio a hyfforddi sy'n seiliedig ar risgiau a sut rydym yn mynd i'r afael â heriau'r dyfodol. Yn gryno, rwy'n gobeithio dangos sut rydym wedi dod yn fwy clyfar dros y blynyddoedd i helpu i wneud ein rhan dros y cynllun gwenyn iach.

Dydd Sadwrn

Wally Shaw

Hunangynhaliaeth, gwenyn wedi'u haddasu'n lleol a gwenyna sy'n canolbwyntio ar y wenynfa

Dros y blynyddoedd, gan fynd yn ôl i'r 19eg ganrif, mae globaleiddio – symud organebau o un lle i'r llall er mwyn hunan-les, heb ystyried y canlyniadau posibl – wedi creu'r rhan fwyaf o'r problemau sydd gennym nawr ym myd gwenyna. Y cyfan y gallwn ni fel gwenynwyr ei wneud yw ceisio delio ag etifeddiaeth y gorffennol ac atal rhagor o broblemau rhag codi yn y dyfodol – mewn geiriau eraill, ceisio lleihau effeithiau globaleiddio. Yn yr hinsawdd wleidyddol sydd ohoni, mae'n annhebygol y bydd unrhyw ddeddfwriaeth yn ein helpu, felly rhaid i ni fwrw iddi ein hunain. Byddai'n ymddangos mai'r unig strategaeth realistig yw dod yn hunangynhaliol o ran gwenyn ac felly ceisio cael gwared ar y galw. Dydy hinsawdd y DU ddim o'n plaid ni yma, felly dyma mae'n debygol pam bydd rhaid gwneud hyn ar raddfa fach. Hefyd byddai'n well ei wneud yn lleol er mwyn ystyried yr hinsawdd hynod amrywiol yn y DU. Mewn geiriau eraill, dylem fodloni'r galw am gytrefi a breninesau drwy ddefnyddio gwenyn sydd wedi ymaddasu'n lleol. Dyna'r hyn rydyn ni'n ceisio ei wneud yng Nghymru ond mae tipyn o ffordd i fynd eto. Yn olaf, mae'r sgwrs yn ceisio dangos manteision dull o wenyna sy'n canolbwyntio mwy ar y wenynfa. Yn anochel mae'n codi'r cwestiwn ynghylch beth rydyn ni'n mynd i'w wneud yn y dyfodol am ein prif broblem, y gwiddonyn parasitig Varroa. Ydyn ni'n mynd i daflu mwy a mwy o gemegion at y broblem, a thrwy wneud hynny atal y broses o ddatblygu goddefedd drwy ddethol naturiol?

 

Dydd Sadwrn

Irene Power

Gwenyna Effeithiol

Bydd y sgwrs hon yn edrych ar sut mae rheoli hyd at 20 cwch a hefyd dangos mêl gan addysgu eraill mor effeithiol ag sy'n bosibl.  Mae'r holl waith sydd ynghlwm wrth hyn a'r ffaith nad oes llawer o amser yn gofyn am ragor o gynllunio a threfnu. Cewch gyfle unwaith yn unig i gwblhau tasgau yn y wenynfa.  Hefyd, bydd y ddarlith hon yn sôn am sut gall gwenyn addysgu byd busnes am reoli a chynhyrchedd sefydliadol.

 

Dydd Sadwrn

Eric Verge

Atgofion am Gymdeithas Gwenynwyr Cymru

Mae Eric wedi bod gyda Chymdeithas Gwenynwyr Cymru ers tro, roedd yn Ysgrifennydd 1976 -86, yn Gadeirydd CONBA 83-86 ac ef oedd y cynrychiolydd cyntaf i'r Gymuned Economaidd Ewropeaidd 85 -86. Dechreuodd Gynulliad Cyntaf CGC yn Llanelwedd a'i redeg. Yn ogystal â bod yn Llywydd CGC am 3 blynedd yn y 90au.

 

Gweith-

dai

Glanhau Cwyr

Dipio Canhwyllau

Cosmetigau

Microsgopeg

Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Archif Eva Crane

Dydd Sul

Yr Athro Robert Pickard

Meddyliau'r Gwenyn Mêl

Mae'r sgwrs hon yn cymharu ymennydd gwenyn mêl â'r ymennydd dynol. Dangosir sut esblygodd yr ymennydd hwn a dangosir y cofnod ffosiliau er mwyn rhoi llawer mwy o wybodaeth inni na'r newidiadau strwythurol a ddigwyddodd. Trafodir synhwyrau, emosiwn, dysgu, cofio, mordwyo, rhesymu a chyfathrebu cymdeithasol. Dim ond gwenyn mêl a phobl sy'n gallu rhoi cyfarwyddiadau mordwyo cymhleth i eraill o'r un rhywogaeth. Sut esblygodd yr ymennydd allu gwybyddol, cysyniad o'r hunan, a gallu i gredu?

 

 

Dydd Sul

Yr Athro Tom Seeley

Y cwch gwenyn fel canolfan wybodaeth

Bryd bynnag mae'n bosibl casglu neithdar, rhaid i gytref o wenyn mêl ddatrys y broblem o gadw ei chasglwyr yn y mannau gorau ymysg y clytiau o flodau y mae ei chwilwyr wedi dod o hyd iddyn nhw.  Dylai llawer o gasglwyr gael eu neilltuo i glytiau o flodau sy'n fawr ac yn hynod broffidiol, tra dylai llai o chwilwyr gael eu neilltuo i'r clytiau sy'n fach neu'n llai proffidiol.  Byddwn ni'n edrych ar sut mae cytref o wenyn mêl yn datrys y broblem hon sy'n newid o hyd. Byddwn yn gweld bod rhesymeg yr ateb y maen nhw wedi'i esblygu (a elwir yn "Algorithm Gwenyn Mêl") yn bwysig iawn i bobl hefyd, oherwydd rydym yn defnyddio'r un rhesymeg i neilltuo gweinyddion cyfrifiaduron (sy'n cyfateb i weithwyr y gwenyn) ymysg gwefannau (sy'n cyfateb i glytiau o flodau) o gwmpas y byd.

 

Dydd Sul

Margaret Ginman

Dringo'r Ysgol wenyna

Sgwrs am gymryd y camau nesaf i ddod yn ffermwr gwenyn masnachol

 

Dydd Sul

Carys Edwards

Dangos Mêl

Darlith am sut I arddangos Mel a cynhych Mel mewn Sioe yw’ ddarlith my fydd yn cael ei chyflwyno yn Gymraeg Gyda Lle I drafod y pwnc yn gymraeg a saesneg.  Lle I gychwyn?  Pa ddosbarth mae’r mel yn mynd I?  Beth Sydd yn bwysig mewn arddangos? Be mae’r Beirniad yn chwilio am? Beth sydd yn bwysig am arddangos cynnych Mel?  Bydd cyfle I bobl ofyn cwestiynau yn ystod y ddarlith

Gweith-

dai

Cosmetigau

Microsgopeg

Yr Uned Wenyn Genedlaethol (NBU) – Clefydau

 

Siaradwyr Sgyrsiau Gweithdai Llety Rhaglen Ffurflen Archebu